Navigation Menu

Navigation Menu
Ar y Cyngor mae 17 o Gynghorwyr, y mae pob un wedi ei ethol am dymor o wasanaeth o ddim mwy na phedair blynedd.
Cynhelir cyfarfodydd y Cyngor yn siambr y cyngor yn Nhŷ Picton ddwywaith y mis, y dydd Mawrth cyntaf a’r dydd trydydd dydd Mercher am 7.00pm. Nid ydynt yn cyfarfod ym mis Awst ac unwaith yn unig ym mis Rhagfyr. Mae’r cyfarfodydd hyn yn agored i’r cyhoedd oni bai fod materion personol neu gyfrinachol yn cael eu trafod.
Mae’r cyngor wedi ymdrechu’n ddi-baid a bydd yn parhau i ymdrechu i wella’r dref ar gyfer ei thrigolion ac ar gyfer y bobl sy’n ymweld â hi.
8:45 am tan 5:15 pm Dydd Llun i Ddydd Iau
8:45 am tan 4:45 pm Dydd Gwener
Mrs Jane Clark
Picton House
2 Picton Place
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 2LU
E-Bost: jane.clark@haverfordwest-town-council.co.uk
Calendr Llawn o Gyfarfodydd y Cyngor
Dydd Iau 24 Mai 2012
Mae’r praesept y mae pobl Hwlffordd yn ei dalu yn talu am amrywiaeth o wasanaethau y mae Cyngor y Dref yn eu darparu.
Mae'r rhain yn cynnwys:
Cynnal a chadw’r tir a’r eiddo sy’n perthyn i gymuned Hwlffordd yn unig.
Mae pobl y dref yn gallu bod yn falch eu bod yn cyfrannu at y ffaith bod y tir canlynol yn parhau i fod ym meddiant Hwlffordd ac nad yw’r trigolion wedi colli’r cyfleusterau hamdden hyn. Gyda chymorth eraill, mae’r rhain yn cael eu cynnal a’u cadw a’u gweinyddu i safon uchel:
Hyrwyddo’r dref yn lle i’w fwynhau gan y trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Hwlffordd yw’r Dref Sirol. Mae’r diwydiant gwyliau yn cyfrannu’n sylweddol iawn i ffyniant y dref ac yn hyn o beth mae’r Cyngor yn fwy nag ymwybodol bod angen cyflwyno delwedd i ymwelwyr a fydd yn eu hannog i fwynhau eu hunain a chreu awydd ynddynt i ddod yn ôl.
Cymorth a roddwyd i sefydliadau’r dref.
Mae Cyngor y Dref wedi gallu gwneud cyfraniadau sylweddol iawn i ddatblygu prosiectau a weithredwyd gan: -
Hyrwyddo bywyd diwylliannol y dref.
Rhoddir grantiau blynyddol i Gôr Merched Hwlffordd, Dawnswyr Glancleddau a Chôr Meibion Hwlffordd. Pan yw’r sefydliadau rhagorol hyn yn ymgymryd â phrosiectau arbennig, yn aml iawn mae rhagor o gymorth ariannol yn gallu bod yn anogaeth iddynt.
Rhoddir cymorth i’n hysgolion er mwyn meithrin cysylltiadau gyda’r ysgolion yn ein gefeilldref Oberkirch .
Hyrwyddo ieuenctid y dref.
Mae’r sawl dull a modd y mae’r dref yn defnyddio ei threthi i hyrwyddo datblygiad ein plant ifanc wedi cael sylw eisoes yn y ddogfen hon, un ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.
Rhoddir cymorth i’r rhai arbennig o ddawnus yn ein plith sy’n cynrychioli’r dref yn genedlaethol a rhyngwladol.
Rhoddir cymorth gyda gwyliau mawr eu hangen i rai y mae ganddynt anableddau.
Un fenter efallai y gall ein trethdalwyr fod yn falch tu hwnt ohoni yw’r cyfle a roddwyd i o leiaf ddwsin o’n pobl ifanc fynd i gymryd rhan mewn profiad a ddaw unwaith mewn oes i feithrin cymeriad trwy hwylio’r cefnfor ar longau hyfforddi fel y Malcolm Miller a’r Winston Churchill.
CYNGOR Y DREF YN GWEITHREDU FEL GRŴP FFOCWS O BWYS
Mae’n bosibl mai swyddogaeth bwysicaf sydd gan Gyngor Tref yw bod yn grŵp ffocws sy’n fodd i unigolion a’r gymuned fynegi eu pryderon a’u huchelgeisiau.
Gallai sefydliadau fel Cyngor Sir Penfro, yr Awdurdod Iechyd, Heddlu Dyfed Powys a Dŵr Cymru fynd yn hunanfodlon neu gael eu darbwyllo i ganolbwyntio eu hymdrechion da mewn cyfeiriadau eraill, pe na byddai unrhyw fath o grŵp ffocws o gwbl. Mae pryderon mân neu rai o bwys yn gallu codi, fel troseddu, dirywiad masnach, materion cynllunio a diogelwch y ffyrdd.
Mae’n iawn fod cymunedau yn gofalu bod yr awdurdodau sy’n gwneud y penderfyniadau yn dod i wybod am eu pryderon. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod y gymuned yn gweithredu mewn modd cadarnhaol yn hyn o beth. Nid yn unig y mae’n rhaid iddi fynegi’r broblem ond dylai hefyd geisio cyflwyno ateb iddi ac ambell waith gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r ateb hwnnw.
Dyna’r modd y mae Cyngor Tref Hwlffordd yn gweithredu. Un enghraifft o hyn yw’r £4,000 a roddwyd tuag at deledu cylch cyfyng i geisio gwneud canol y dref yn fwy diogel.
CANOLFAN GYMUNEDOL PICTON, RHODFA’R RHYDDFREINWYR,
Mae’r cyfleuster hwn a reolir gan Gyngor Tref Hwlffordd yn cael ei ddefnyddio llawer nid yn unig gan sefydliadau a grwpiau lleol ond hefyd gan bobl sy’n trefnu digwyddiadau a dosbarthiadau o bob rhan o Orllewin Cymru. Mae yng nghanol y dref ac mae ganddo gyfleusterau parcio preifat digonol.
Mae’r Ganolfan yn ganolfan fodern wedi ei hadeiladu’n bwrpasol gyda neuadd fawr, y gellir ei rhannu, cegin gyda’r holl offer a rhan lle mae bar a rhan fawr gyda llwyfan. Mae yno gyntedd mawr hefyd ac ystafell gotiau. Mae gan y ganolfan leoedd parcio, mynedfa addas a thoiledau ar gyfer pobl ag anableddau.
Mae gan y ganolfan drwydded adloniant cyhoeddus a lle i eistedd ar gyfer 180 o bobl gydag yswiriant atebolrwydd cyhoeddus digonol.
Mae’r ganolfan ar gael saith niwrnod yr wythnos ar gyfer cyfarfodydd & digwyddiadau.
Cysylltwch â Chyngor Tref Hwlffordd ar 01437 763771 neu e-bostio jane.clark@haverfordwest-town-council.co.uk
Latest News
| ||||
|
| ||||