Navigation Menu

Navigation Menu
Mae gan y dref ddwy bont hanesyddol ar draws Afon Cleddau, yr Hen Bont a’r Bont Newydd.
Rhoddwyd yr Hen Bont yn anrheg, ym 1726, gan Syr John Philipps o Gastell Picton. Codwyd yr Hen Bont ar y rhyd yn Hwlffordd lle croesodd Harri Tudur, gyda’i fyddin, wedi glanio yn Dale ym mis Awst 1485.
Codwyd y Bont Newydd ym 1836 gan y pensaer William Owen i gyfannu’r ffordd newydd i mewn i’r dref ar hyd Victoria Place.
Adeiladwyd hwn ar dir a roddwyd i’r canoniaid Awstinaidd gan Robert FitzTancard , arglwydd Hwlffordd oddeutu 1200 ar lan orllewinol Afon Cleddau.
Ym 1536 , adeg diddymiad y mynachlogydd, prynwyd y Priordy gan Roger a Thomas Barlow , brodyr i William a oedd ar y pryd yn Esgob Tyddewi.
O’r flwyddyn 1983 ymlaen mae rhaglen o waith cloddio wedi bod yn digwydd ar safle adfeilion y Priordy ac o ganlyniad mae llawer o’r adeiladau gwreiddiol wedi dod i’r amlwg. Un o’r darganfyddiadau oedd gardd ganoloesol wedi ei threfnu’n welyau uchel.
Codwyd y tŷ hwn yn Heol yr Afr gan John Nash ar gyfer Richard Foley, brawd y Llyngesydd Thomas Foley, a wasanaethodd gyda Nelson yn Cape St. Vincent. Mae o’r flwyddyn 1790 yn fras ac mae’n un o’i adeiladau preswyl cynharaf.
Mae’n bwysig o ran yr arbrofi gyda gofod sydd yno, gyda’r rhannau o’r tŷ sy’n ymwneud â gwasanaethau o’r golwg ar y cyfan ac mae gan bob ochr i’r tŷ olwg neu olygfa wahanol.
Mae tair cofeb ryfel yn Hwlffordd
Mae Cofeb Ryfel Sir Benfro, a godwyd yn gyntaf ar Sgwâr y Cyfarchiad, ond sydd erbyn hyn ar bwys Neuadd y Sir, yn coffau’r 3000 o ddynion a aberthodd eu bywydau yn Rhyfel Mawr 1914-19.
Ar bwys hon saif y gofeb sy’n coffau’r 88 o ddynion o Hwlffordd a fu farw yn rhyfel 1939-45, wedi ei symud o’i safle blaenorol ar bwys Eglwys y Santes Fair, er mwyn bod yn fwy hwylus ar gyfer cynnal gwasanaeth blynyddol y senotaff.
Ar safle hen neuadd y dref ar y Stryd Fawr, islaw Eglwys y Santes Fair, saif y groes wladaidd sy’n coffau’r 44 o ddynion o Sir Benfro a laddwyd yn Rhyfel De Affrica 1899-1902.
Yn bellach i lawr y Stryd Fawr mae colofn o wenithfaen coch yn nodi’r fan lle llosgwyd un o ferthyron Mari Waedlyd, William Nichol wrth y stanc ym 1558. Roedd yn un o dri Chymro a fu farw dros ei ffydd yn ystod erledigaethau Mari Waedlyd, yn ystod teyrnasiad y frenhines honno, sef Mari Tudur.
Roedd wedi dysgu darllen ac ysgrifennu yn y Priordy lle’r oedd yn gweithio i Ynad y Siambr yn cadw cyfrifon a chasglu dyledion. Arferai fynd mas i’r heolydd i bregethu’r pregethau yr oedd wedi eu paratoi yn ei gartref ar bwys y castell.
Wedi i’r frenhines orchymyn bod rhaid llosgi pob camgredwr fe guddiodd, ond cafodd ei ddal a’i garcharu yn y castell cyn ei ferthyru’n gyhoeddus.
Yn agos i ben y bryn, gyferbyn ag Eglwys y Santes Fair, ar y gyffordd gyda Heol y Farchnad y mae mynedfa’r Gladdgell, a oedd yn seler gromennog o dan dy yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg.
Oddi mewn i furiau’r Castell, mae amgueddfa’r dref, a oedd yn arfer bod yn dy i reolwr y carchar.
Ynddo maent yn cynnal arddangosiadau o gelfyddyd a hanes lleol ac mae ganddo hen greiriau o orffennol y dref.
Roedd Carchar y Dref oddi mewn i furiau’r Castell am ganrifoedd a chodwyd carchar a chyweirdy newydd y dref yn erbyn mur deheuol y cwrt mewnol ym 1779. Ym 1822 codwyd adeilad tri llawr yn lle hwn yn y cwrt allanol, ac ynddo nawr mae Swyddfa Archifwyr y Sir.
Yng ngwaelod y Stryd Fawr mae Neuadd y Sir, adeilad o bensaernïaeth newydd-glasurol a godwyd gan William Owen ym 1837 ar safle Addoldy’r Crynwyr, a symudodd i’r Cei Newydd.
Yma y cynhaliwyd y Llysoedd Ynadon a Sirol hyd at yn ddiweddar a chynhaliwyd y brawdlysoedd yma hefyd un adeg.
Ar ei safle yn Picton Place mae ganddi fynedfa drawiadol gyda chwech o golofnau Corinthaidd a thalog uwchben. Cwblhawyd ym 1872 am gost o £2,000.00.
Ym 1972 heidiodd pobl o bob rhan o’r byd i Hwlffordd i gymryd rhan yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae Meini’r Orsedd lle cynhaliodd y Beirdd eu defodau yn sefyll nawr lle mae Llwybr Glan yr Afon, a estynnwyd yn ddiweddar, yn dechrau.
Mae’r llwybr hwn yn fodd i fynd am dro hamddenol gyda glan yr afon lle gwelir bywyd gwyllt yn aml, fel y dyfrgi a’r eog.
Yma yn rhan hynaf y dref y mae addoldy Cristnogol hynafol iawn. Codwyd yr eglwys gyntaf ar y safle ym 1120 ar gyfer anghenion ysbrydol deiliaid y Castell a’u gweision yn ogystal â thrigolion cyntaf y dref newydd a nythai o amgylch y castell ac oddi mewn i fur gwreiddiol y dref. Mae ei thŵr wythochrog o gerrig yn fodd ei hadnabod.
Gellir olrhain yr eglwys i oes y Normaniaid ond ailgodwyd hi yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae ei chysegru i Martin Sant o Tours yn arwydd ei bod wedi ei sefydlu yn gynnar yn y ddeuddegfed ganrif. Cwblhawyd yr adnewyddu diwethaf o bwys ym 1865 wedi 3 blynedd o waith.
Ymysg ei nodweddion diddorol y mae ffenestr orllewinol unionsyth ysblennydd, beddfaen canoloesol yn y gangell, bedyddfaen canoloesol gyda rhosyn Tuduraidd wedi ei naddu y tu isaf iddo o dan yr ysbïendwll.
Yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg codwyd yr ystlys ddeheuol gydag ystafell offeiriad neu borthdy uwchben y fynedfa, a Chapel y Forwyn. Ar ffenestr ddiweddar mae arfbais y dref ac arfbeisiau Ymddiriedolwyr Perrot ac Urdd Rhyddfreinwyr Hwlffordd.
Gyda hi mae mynwent uchel ganoloesol wedi ei chadw’n dda.
Yn sefyll ar bwys St Thomas Green mae hi’n ymfalchïo yn ei thŵr gwych 75 troedfedd o uchder. Ynddi mae llawer o feddargraffiadau diddorol yn cynnwys caead arch o’r drydedd ganrif ar ddeg sy’n coffau pererin a fu farw bron iawn i wyth cant o flynyddoedd yn ôl un ai ar ei ffordd i Dyddewi neu ar ei ffordd yn ôl. Roedd dwy bererindod i Dyddewi cystal ag un i Rufain.
Wedi ei chysegru i’n nawddsant Dewi, mae hi’n sefyll ar safle godidog ym Mhrendergast. Mae traddodiad hir iddi ac yma y mae Howell Davies wedi ei gladdu, yr arweinydd Methodistaidd a oedd yn cael ei alw’n Apostol Sir Benfro.
Mae’r eglwys hon yn Heol y Rhiw yn perthyn erbyn hyn i’r enwad Unedig Diwygiedig/Methodistaidd. Yn wreiddiol hwn oedd tŷ cwrdd y ‘Green Meeting House’ lle'r oedd yr anghydffurfwyr yn cwrdd mor gynnar â 1638.
Ailgodwyd hon ym 1874 ar lun Basilica Rhufeinig. Sefydlwyd hi gyntaf ym 1774 yng ngwaelod Heol y Ddinas.
Codwyd hon yn Heol Dewi ym 1872 ar gyfer anghenion poblogaeth gynyddol o Gatholigion.
Mae’r capel hwn ar waelod Heol yr Ysgubor ymysg y mwyaf gwych yng Nghymru. Mae lle ynddo i 900 o bobl. Adeiladwyd ym 1798 a’i ehangu yn 1816. Ym 1878, cafodd ei ailadeiladu yn y dull Romanésg Cymreig gan George Morgan o Gaerfyrddin am gost o £2,199.00
Y gred yw ei bod wedi ei chodi ar olion hen adeilad Normanaidd ac mae hi’n enghraifft wych o’r bensaernïaeth addurniadol. Ymysg ei nodweddion mwyaf nodedig y mae bwâu cynnar, to Tuduraidd o baneli derw a cherfiadau o’r oesoedd canol. Mae ysgwyddiadau’r to yn dangos pennau dynion un ochr a phennau merched yr ochr arall a’r farn yw bod y to paneli ymysg y gorau yn y wlad.
Ynddi mae peth o’r gwaith pres hynaf yn Sir Benfro, o ganol yr ail ganrif ar bymtheg, cofrestri mor bell yn ôl â 1590 ac mae gan gôr ddwysedd y maer a’r siryf ben gwely o’r bedwaredd ganrif ar ddeg wedi ei gerfio’n fanwl odidog. Mae enw’r maer o 1642 wedi ei dorri ar bres. Bu’r eglwys yn garchar am gyfnod byr yn 1789 i ddal y milwyr o Ffrainc a oedd wedi ildio wedi glaniad aflwyddiannus ar bwys Abergwaun.
http://www.stmaryshaverfordwest.co.uk
Latest News
| ||||
|
| ||||