Navigation Menu

Navigation Menu
Tref sirol Sir Benfro.
Dyma dref gyda chyfoeth o adeiladau hanesyddol a threftadaeth hanesyddol, sy’n ymfalchïo yn ei llwybrau ar lan yr afon a mannau gwyrdd niferus.
Daw enw’r dref o’r hen air Saesneg am fwch gafr, sef ‘haefer’ gyda’r gair ‘ford’, sef y rhyd lle byddent yn croesi afon Cleddau.
Cyn 1409 enw’r lle yn Saesneg oedd Haverford. Yna, er mwyn datrys y dryswch gyda Henffordd, sef Hereford yn Saesneg, ychwanegwyd “west” a dyna yw’r enw ers hynny.
Yn ystod y degawd o 1340 ymlaen roedd Hwlffordd yn un o’r trefi mwyaf yng Nghymru ac mae tair o eglwysi plwyf yno yn dystiolaeth o hynny. Roedd yn lle llewyrchus oherwydd cynhyrchu brethyn. Roedd ei phorthladd, ei marchnadoedd a’i ffeiriau, yn ogystal â’i bod yng nghanol y sir, yn fodd i ddenu nwyddau i mewn o weddill Sir Benfro.
Latest News
| ||||
|
| ||||