Navigation Menu

Navigation Menu
Gall ymwelwyr fwynhau diwrnod yn Aberllydan gyda’i ehangder maith o draeth euraid sydd fwy neu lai’n ddiguro o ran ymdrochi’n ddiogel, neu ym mhentref cyfagos ond llai Aber Bach.
Mae Dale a Marloes yn bentrefi diddorol ac mae’r ddau ar y ffordd i ynysoedd sydd ymysg y gwarchodfeydd adar mwyaf adnabyddus yn Ewrop – Sgomer a Sgogwm, sy’n ferw o amrywiaeth anhygoel o adar môr. Fe gewch wybodaeth am wibdeithiau o’r Ganolfan Groeso ar 01437 763110. Mae’r cychod yn hwylio i’r ynysoedd o St Martin’s Haven, trwy’r pentref neu Marloes. Rydym yn argymell yn arbennig iawn y gwibdeithiau o amgylch yr ynysoedd i fwynhau’r glannau godidog. Yn gynnar yn yr hydref mae cyfleoedd i weld y cannoedd o Forloi Llwyd yr Iwerydd sy’n dod i’r lan i roi genedigaeth.
Yng ngogledd y sir mae’r golygfeydd yn fwy geirwon. Yma mae’r ddinas leiaf ym Mhrydain, Tyddewi, gyda’i chadeirlan odidog mewn dyffryn hardd, a adeiladwyd yn y fan hon er mwyn ei diogelu rhag goresgynwyr o Lychlyn - a gerllaw mae traeth y Porth Mawr.
Ar eu ffordd i Dyddewi mae ymwelwyr yn mynd heibio i draeth hir Niwgwl, yn ddiogel gyda’i glawdd uchel o boplys, lle delfrydol ar gyfer syrffio. Mas o Niwgwl mae’r ffordd yn fforchio ac mae ymwelwyr yn wynebu’r dewis anodd o deithio un ai heibio i draeth bach tawel Nolton Haven ymlaen i Aberllydan neu drwy Niwgwl lle mae’r heol ymhellach ymlaen yn disgyn i lawr i bentref Solfach gyda’i fornant hardd a thwr o gychod hwylio lliwgar braf.
Mae Hwlffordd mewn lle delfrydol i fynd i grwydro’r unig Barc Cenedlaethol arfordirol ym Mhrydain.
O Lwybr yr Arfordir y mae’r glannau godidog i’w gweld ar eu gorau. Mae hwn yn Llwybr Cenedlaethol dynodedig, sy’n ymestyn 186 o filltiroedd o Lanrhath yn y de yr holl ffordd i Landudoch yn y gogledd. Fel gydag unrhyw dirwedd arw arall mae angen i’r cerddwr baratoi’n drylwyr i fwynhau’r llwybr anodd hwn yn ddiogel. Mae’r daith i gyd yn her gorfforol sylweddol iawn, yn cynnwys 25,000 o droedfeddi o godi a disgyn. Fodd bynnag, mae’n cynnig hefyd amrywiaeth aruthrol o deithiau cerdded byrrach y gellir eu cwblhau ymhen diwrnod gyda gwasanaeth bysiau’r Pâl yn gymorth i’r cerddwr lluddedig.
Hwn yw Parc Cenedlaethol mwyaf gorllewinol Prydain ac mae’n un o’r ardaloedd amgylcheddol mwyaf gwerthfawr yn Ewrop. Mae’n enwog am nythfeydd adar môr a morloi a’r blodau gwyllt sy’n ffynnu yn ei hinsawdd dyner. Mae Awdurdod Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gofalu am yr ardal arbennig hon ac un o’i nodau yw cynorthwyo ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd i fwynhau’r hyn sydd gan y parc i’w gynnig.
Fe gewch ragor o wybodaeth ar 0845 345 7275 yn ystod oriau swyddfa.
Sir Benfro yw’r lle perffaith ar gyfer pobl sy’n dwli ar natur. O ddyddiau cynnar y gwanwyn i ddiwedd yr hydref, mae lliwiau’r wlad yn newid yn barhaus. Mae ei dyffrynnoedd coediog, ei glannau, ei bryniau, gwastadeddau lleidiog yr aberoedd a’r gweunydd yn cynnig cynefin ar gyfer amrywiaeth gyfoethog o flodau gwyllt, adar, planhigion, pryfaid, anifeiliaid a chreaduriaid y môr. Yma ar ben gorllewinol Cymru mae’n mwynhau gaeaf a gwanwyn cynnar sy’n dyner heb fawr ddim barrug.
Mae’r briallu a’r eirlysiau yn blodeuo’n gynnar ar y cloddiau ac yn eu lle daw clatsh y cŵn uchel, menig y gog, llysiau’r llew, y cegid a’r gwyddfid a’u persawr. Mae’r cloddiau yn frith gydag eithin melyn, y ddraenen wen a’r ddraenen ddu.
Ym misoedd Mai a Mehefin mae pennau’r clogwyni yn gwisgo’u gogoniant o ladis bach, y clustogau Mair pinc, sêr glas y gwanwyn a’r meillion melyn. Mae wynebau’r clogwyni, y siliau creigiog, pob agen a hollt, yn nythfeydd delfrydol ar gyfer adar y glannau.
Mae’r ynysoedd oddi ar y lan, Sgomer, Sgogwm a Gwales yn warchodfeydd adar o fri rhyngwladol. Ar Sgomer mae llecynnau manteisiol uwchben clogwyni sy’n llawn o wylogod, gwylanod coesddu a gweilch y penwaig. Mae gwylanod cefnddu a gwylanod llwyd yn nythu ger y llwybrau ac mae’r ynys yn rhidyll o dyllau magu’r gwylanod Manaw a’r palod. Ar Sgogwm gerllaw mae nythfeydd anferthol o adar y drycin a gwylanod Manaw. Deng milltir ymhellach mas ym Môr Iwerydd, mae’r ynys bellaf o’r lan, Gwales, lle mae mwy na 30,000 o barau o fulfrain yn nythu.
Gyferbyn â thrwyn Tyddewi mae Ynys Dewi sy’n gartref i gannoedd o Forloi Llwyd Iwerydd a miloedd o weilch y penwaig, gwylogod, gwylanod coesddu a gwylanod y graig. Mae heulforgwn yn cael eu denu’n aml i ddyfroedd y glannau ac mae’r dolffiniaid a’r llamhidyddion yn ymwelwyr cyson.
Yn ogystal â’r adeiladau hanesyddol yn y dref, heb fod yn bell iawn o Hwlffordd, mae Tyddewi gyda’i chadeirlan wych a’r cloestrau sydd wedi eu hadnewyddu’n ddiweddar. Ar hyn o bryd mae gwaith adnewyddu yn mynd rhagddo ym Mhalas yr Esgob. Ewch i fwynhau tamaid o fwyd yn y ffreutur a’r oriel gelf neu ymweld â Ffynnon Non gerllaw. Roeddent yn arfer dweud bod dwy bererindod i Dyddewi cystal ag un i Rufain.
Mae tref Abergwaun yn falch iawn bod ganddi adfeilion hen gaer a oedd yn gwarchod ei phorthladd ac mae llawer o adeiladau a gerddi gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnwys Colby yn Llanrhath.
Mae digonedd o gestyll yn Sir Benfro, rhai mewn cyflwr gwell na’i gilydd, fel Penfro, Caeriw, Maenorbŷr, Arberth a Phicton a sawl un arall sy’n deilwng o ymweliad.
Mae Sir Benfro yn frith hefyd gan feini hirion, meini mawr a siambrau claddu yn ogystal â meini gleision Mynydd Preseli a welir yng Nghôr y Cewri.
Teilwng tu hwnt o ymweliad hefyd yw siambrau claddu Pentre’ Ifan, Carreg Samson, Garnwen a Choeten y Diafol, hefyd cylch cerrig y Gors Fawr neu Fedd Arthur ar ffurf cwch, y ddau ar bwys Mynachlogddu. Yn yr ardal hon hefyd mae’r meini hirion a elwir Meini Meibion Arthur sy’n nodi’r fan lle credir bod meibion y Brenin Arthur wedi eu lladd.
Latest News
| ||||
|
| ||||