Navigation Menu

Navigation Menu
Mae Hwlffordd yn dref sydd wedi bod trwy gyfnodau o lewyrch a thlodi o ganlyniad i’r masnachu ffyniannus, y rhyfeloedd a’r plâu. Trwy hyn oll mae hi wedi bod yn dref deilwng o ymweliadau gan rai o’r teulu brenhinol ac enwogion eraill.
Mae Hwlffordd yn dal i fod yn dref sirol Sir Benfro, gyda Maer y Dref, sydd hefyd yn Llyngesydd y Porthladd, a Siryf y Dref hefyd sy’n un o bymtheg yn unig o Siryfion Dinasoedd a Threfi yng Nghymru a Lloegr. Yn wir, mae’n un o ddau yn unig yng Nghymru.
Nid tref yn unig yw Hwlffordd. Mae hefyd yn sir yn ei rhinwedd ei hun. Datblygodd yng nghysgod Castell Ffleminaidd i fod yn ganolfan weinyddol i Sir Benfro ac yn dref farchnad lewyrchus gydag adwerthwyr lleol yn cadw siopau diddorol yn arddangos anrhegion bendigedig o’n hardal leol ni ynghyd a phethau diddorol eraill.
Mae gan Hwlffordd bedair o eglwysi plwyf a llawer o adeiladau gwych hefyd y mae rhai ohonynt o’r oes Sioraidd.
Mae’r dref yn cynnal marchnad ffermwyr arobryn, dewis mawr o dai bwyta a chaffis, archfarchnadoedd, tafarnau a gwestai.
Mae Hwlffordd yn hawlio’r Clwb Criced y dywedir ei fod yr hynaf yng Nghymru. Mae yno hefyd glybiau Rygbi, Peldroed, Bowlio a Thennis.
Mae Hwlffordd yn ymfalchïo mewn llawer o gorau gwych yn cynnwys Côr Meibion, Côr Merched, côr cymysg a’r cwmni dawnsio Cymreig lleol, Dawnswyr Glancleddau.
Nid yw trigolion Hwlffordd ac ymwelwyr â’r dref byth yn bell iawn oddi wrth draethau gyda thywod euraid neu boplys neu glogwyni trawiadol.
Yn lle hynny, mae llwybrau i gerdded ar lan yr afon yn y dref neu yn y wlad gyfagos, heb sôn am lwybr yr arfordir.
Neu, ar gyfer pobl â diddordeb mewn hanes, mae gennym y castell, eglwysi ac adeiladau hanesyddol yn y dref. Gyda digonedd o feini mawr a meini hirion, cestyll, adeiladau hanesyddol ac adfeilion yn y wlad gerllaw, mae cadeirlan Tyddewi yn gwta hanner awr o daith o’r dref.
Ar gyfer y plant mae gennym Barc Thema Oakwood, cartio, bowlio, sinemâu, theatrau a chanolfannau awyr agored o amgylch y dref.
Beth allai fod yn well na mynd am dro hamddenol yng nghefn gwlad, anadlu awyr iach y wlad o dan yr heulwen braf?
Y dref fwyaf yn Sir Benfro o ran ei phoblogaeth os nad o ran ei maint, Hwlffordd yw canolfan weinyddol y rhan hon o Gymru. Ar bwys y Llwybr Celtaidd, ac yn ganolfan dda yng nghanol Sir Benfro ar gyfer mynd tua’r gogledd i Fryniau’r Preseli a thua’r gorllewin i gyfeiriad Bae Sain Ffraid, mae gan Hwlffordd un o’r amgueddfeydd hanes lleol gorau yn Sir Benfro, ac wrth gwrs Castell Hwlffordd hefyd!
Mae gan ganol y dref amrywiaeth fawr o siopau a chei difyr wedi ei addasu (roedd Hwlffordd un adeg yn borthladd llewyrchus ym mhen yr aber). Mae hi’n dref brysur a llawn bywyd gyda digonedd o dai bwyta, lletyau a gwestai, tafarnau a chaffis yma.
Yn ogystal â’r Castell Canoloesol a’r amgueddfa, saif adfeilion Priordy Awstinaidd ar lan yr afon, sy’n arwydd arall o hanes hynafol Hwlffordd. Mae gan Hwlffordd hefyd un o’r meysydd golff gorau yn y wlad.
Latest News
| ||
|
| ||